Hyfforddwr ar gyfer RE:MAKE Casnewydd / Caffi Trwsio Cymru
Ein Cefndir
Mae RE:MAKE Casnewydd yn brosiect cydweithredol rhwng Caffi Trwsio Cymru a Benthyg Cymru.
Gyda chyllid trwy WCVA, agorodd y ddau sefydliad nid-er-elw gaffi trwsio a llyfrgell pethau parhaol cyntaf ar Stryd Fawr yng Nghymru ym mis Hydref 2021.
Y nod yw annog pobl i fenthyg, nid prynu, trwsio, ac nid taflu.
Ein Gweledigaeth
‘Cymdeithas sy’n cael ei grymuso i gydweithio er mwyn lleihau gwastraff, rhannu sgiliau, a chryfhau ein cymunedau’
Ein Cenhadaeth
Rydyn ni’n cydnabod nad yw’r newid ymhlith dynoliaeth i gymdeithas taflu-i-ffwrdd yn un cynaliadwy.
Gydag ymrwymiad i hwyluso agor caffis trwsio ym mhob tref, pentref, dinas a maestref yng Nghymru, mae Caffi Trwsio Cymru a phrosiect RE:MAKE yn canolbwyntio ein hegni ar feithrin byd glannach, mwy cynaliadwy wrth i’n cymunedau ddod yn amgylcheddau cynhwysol a diogel i bobl o bob oedran a chefndir rannu gwybodaeth, sgiliau, a chysylltu â’i gilydd yn gyffredinol.
Bydd ein gwirfoddolwyr yn ceisio trwsio eitemau trydanol cartref bach a dillad. Rydyn ni hefyd yn adfer hyder, yn uwchraddio sgiliau’r sawl sydd am ddysgu yn ein gweithdai, ac yn atgoffa ein hunain o bwysigrwydd cyfathrebu, cydweithredu ac ysbryd cymuned.
Mae manteision cymdeithasol ac amgylcheddol Caffi Trwsio Cymru i’w gweld yn y lefelau cynyddol o alw i lansio caffis trwsio a rhwydwaith cynyddol o fannau RE:MAKE parhaol.
Mae’r ymateb yma’n adlewyrchu pryder cynyddol y cyhoedd am yr argyfwng hinsawdd ac yn arwydd gadarnhaol o ysgogiad ymhlith ein cymdeithas i ddod at ein gilydd a chymryd camau ymarferol tuag at ei ddatrys.
Rydyn ni’n gweithio i’n cymunedau ddylanwadu ar safonau am nwyddau a pholisi’r llywodraeth, yn casglu data o’n hybiau cymunedol, ac yn helpu i lywio penderfyniadau polisi sy’n hyrwyddo byd gwyrddach, mwy cynaliadwy.
Ein Gofynion
Rydyn ni’n bwriadu gweithio gyda hyfforddwr llawrydd i ddarparu’r canlynol:
Hwyluso sesiynau hyfforddiant meddalwedd a phrosesau gyda mannau RE:MAKE newydd:
· Gweithio gyda rheolwr prosiect y llyfrgell pethau i ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd amrywiol y platfform benthyg, Lend Engine a My Turn, a phroses taith y defnyddiwr ar gyfer staff a gweinyddwyr.
· Dod yn gyfarwydd â phrif gynnwys pecyn cymorth Benthyg Cymru i gefnogi hyfforddiant prosesau.
· Gweithio gyda rheolwr prosiect caffis trwsio i ddysgu meddalwedd y caffis trwsio a phroses taith y defnyddiwr.
· Datblygu adnoddau (gan gynnwys adnoddau digidol) i allu gweithredu sesiynau hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr ar draws prosiectau RE:MAKE.
· Datblygu a chyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb ‘sut i’ hyfforddi’r hyfforddwr ar systemau gyda mannau RE:MAKE newydd (Pontypridd, Maerdy, Wrecsam a Bangor)
· Trefnu sesiynau dilynol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy’n methu mynychu’r dyddiadau hyfforddiant cychwynnol
· Trefnu sesiynau gloywi ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy’n gofyn amdanyn nhw naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein
· Gweithio’n agos gyda’r ddau reolwr prosiect i roi adborth am gynnydd defnyddwyr
· Mae bod yn fodlon teithio i ogledd Cymru i gyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb yn ddymunol.
· Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Nodau ac Amcanion
Bydd llwyddiant o’n safbwynt ni yn golygu:
· Rydych chi’n dysgu ein systemau ni’n gyflym ac yn dylunio eich sesiynau hyfforddiant yn unol â hynny
· Staff a gwirfoddolwyr yn ein pedwar safle RE:MAKE newydd yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio meddalwedd y platfform benthyg a chaffis trwsio.
· Rhoi adborth i’r rheolwyr prosiect am lefel hyder pawb sy’n mynychu wrth ddefnyddio’r feddalwedd
· Y mwyafrif o staff a gwirfoddolwyr ar safleoedd RE:MAKE yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r feddalwedd neu’n gwybod ble i gael cymorth.
Eitemau Asesu
§ Dylai’r dyfynbris gynnwys enghreifftiau/astudiaethau achos o waith a phrofiad perthnasol blaenorol.
§ Dadansoddiad o’r gost yn ôl naill ai gyfradd y diwrnod neu’r awr, ac a ydy’n cynnwys TAW
§ Bydden ni’n rhagweld y person yn gweithio 14 awr yr wythnos am 12 wythnos
§ Eich argaeledd a’r dyddiau/amserau sy’n well gennych chi
Amserlen
§ Y dyddiad cau am ymatebion yw cyn gynted â phosibl. Byddwn ni’n adolygu ceisiadau wrth iddyn nhw ddod i mewn ac yn eich gwahodd i gyfweliad anffurfiol.
§ Cadwn yr hawl i gau’r swydd wag yma’n gynnar os byddwn ni’n derbyn digon o gynigion am y rôl. Felly os oes diddordeb gennych chi, cyflwynwch eich cais mor fuan â phosibl.
Cyflwynwch eich cynigion drwy e-bost i katie@remakenewport.org
Ewch i’n gwefan yn: https://www.remakenewport.org/
Trainer for RE:MAKE Newport/ Repair Café Wales
Our Background
RE:MAKE Newport is a collaborative project between Repair Cafe Wales and Benthyg Cymru.
Funded through the WCVA, the two not-for-profit organisations opened Wales' first permanent repair cafe and library of things on a Welsh High Street in October 2021.
The aim is to encourage people to borrow, not buy, repair, and not throw away.
Our Vision
‘A society empowered to work together to reduce waste, share skills, and strengthen our communities’
Our Mission
We recognise that the shift of humanity into a throw-away society is not a sustainable one.
Committed to facilitating the opening of repair cafés in every town, village, city and suburb in Wales, Repair Café Wales and the RE:MAKE project are focusing our energies on nurturing a cleaner, more sustainable world whilst our communities are inclusive and safe environments for people of all ages and backgrounds to share knowledge, skills, and to generally connect.
Our volunteers will attempt to fix small household electricals and garments. We also restore confidence, upskill those who want to learn in our workshops, and we remind ourselves of the importance of communication, cooperation and community spirit.
The social and environmental benefits of Repair Cafe Wales are evidenced in the growing levels of local demand to launch repair cafés and an expanding network of permanent RE:MAKE spaces.
This response reflects increasing public concern over the climate emergency and positively indicates a motivation amongst our society to come together and take practical steps towards a solution.
We are working for our communities to influence standards for goods and government policy, collecting data from our community hubs, and helping to inform policy decisions that promote a greener, more sustainable world.
Our Requirements
We are looking to work with a freelance trainer to provide the following: Facilitate software and process training sessions with new RE:MAKE spaces:
Work with the library of things project manager to learn how to use the various borrowing platform software; Lend Engine and My Turn and the user journey process for staff and administrators.
Become familiar with the topline contents of the Benthyg Cymru toolkit to support process training.
Work with the repair café project manager to learn the repair café software and user journey process.
Develop resources (including digital) to be able to implement training sessions to staff and volunteers across RE:MAKE projects.
Develop and roll out in person train the trainer ‘how to’ sessions on systems with new RE:MAKE spaces (Pontypridd, Maerdy, Wrexham and Bangor)
Arrange follow up sessions for staff and volunteers who can’t attend initial training dates
Arrange refresher sessions for staff and volunteers who request it either in person or online.
Work closely with both project managers to feedback user progress
Willing to travel to North Wales to deliver in person sessions is desirable.
Ability to speak Welsh is desirable
Aims & Objectives
Success for us will see;
You quickly learning our systems and designing your trainer sessions accordingly
Staff and Volunteers at our four new RE:MAKE sites feeling confident using borrowing platform and repair café software.
Feedback to project managers regarding each attendees confidence level on using the software
Majority of staff and volunteers at the RE:MAKE sites feeling confident using the software or knowing where to access support.
Assessment Items
The quote should include examples/case studies of previous relevant work and experience.
A breakdown of cost by either daily or hourly rate and whether it includes VAT
We would envisage the person working 14 hours a week for 12 weeks
Your availability and preferred days/times
Timelines
We will be reviewing applications as they come in and inviting you to an informal interview.
We reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient proposals for the role. Therefore, if you are interested, please submit your application as early as possible. Please submit completed proposals via email to katie@remakenewport.org
Visit our website at: https://www.remakenewport.org/
Comentarios